Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ionawr 2016
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar gyfer y Bil Tai a Chynllunio
1. Ar 12 Ionawr 2016 cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i wahodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Tai a Chynllunio.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 18 Chwefror 2016.